Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 3 Hydref 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:15 - 12:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies (Cadeirydd) Peter Black Christine Chapman Paul Davies Mike Hedges Ann Jones Julie Morgan Ieuan Wyn Jones |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Angela Burns, Comisiynydd Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Steven O'Donoghue, Pennaeth Adnoddau'r Cynulliad Peter Tyndall, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Susan Hudson, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu Malcolm MacDonald, Cynghorydd Ariannol |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Gareth Price (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2 Datganodd Peter Black fuddiant fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad ac ni fyddai’n cymryd rhan yn y gwaith o graffu ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad.
2. Craffu ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-2014
2.1 Croesawodd y Pwyllgor Angela Burns, Aelod o’r Cynulliad; Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad; a Steve O’Donoghue, Pennaeth Adnoddau’r Cynulliad.
2.2 Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i’r tystion.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd Comisiwn y Cynulliad i:
· Ddarparu nodyn ar p’un a yw contractwyr yn cynnal safonau cydraddoldeb, cyflog byw ac aelodaeth undeb llafur.
· Ymateb i bryderon a godwyd gan Mike Hedges AC ar fuddsoddiad TGCh;
3. Craffu ar amcangyfrifon drafft Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
3.1 Croesawodd y Pwyllgor Peter Tyndall, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; Susan Hudson, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu; a Malcolm MacDonald, Cynghorydd Ariannol.
3.2 Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i’r tystion.
Cam i’w gymryd:
Cytunodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ddarparu:
· Rhagor o fanylion am y cynnydd mewn cwynion yn gysylltiedig â’r sector iechyd, gan gynnwys goblygiadau cyllidebol y cwynion hynny.
4. Papurau i'w nodi
4.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol.
5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
6. Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-2014.
6.2 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth ar amcangyfrifon drafft yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.
6.3 Bydd adroddiadau drafft ar y ddwy gyllideb yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.